Papur 1
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
Papur Tystiolaeth - Dyraniadau’r Gyllideb Ddrafft Plant a Phobl Ifanc 2014-15.
1. Cyflwyniad
Mae’r papur hwn yn darparu sylwadau a gwybodaeth i’r Pwyllgor ynghylch cynigion cyllidebol ar gyfer rhaglenni Plant a Phobl Ifanc yn y dyfodol a amlinellir yn y Gyllideb Ddrafft a osodwyd ar 8 Hydref 2013.
2. Cefndir
O’i gymharu â’r cynlluniau dangosol a gyhoeddwyd adeg y Gyllideb Derfynol 2013-14, fel y’u hailddatganwyd yn sgil yr ad-drefnu ym Mawrth 2013, mae cyfanswm y dyraniad DEL ar gyfer MEG Cymunedau a Threchu Tlodi (CTP) wedi cynyddu £0.4m yn 2014-15 i £212.7m
Ceir gostyngiad net yn y DEL Adnoddau o £3.6m yn 2014-15 i £192.2m. Y cynllun dangosol ar gyfer DEL Adnoddau 2015-16, a gyhoeddir am y tro cyntaf yw £191.5m.
Ceir cynnydd net i’r gyllideb cyfalaf o £4m yn 2014-15 i £20.5m, yn sgil dyraniad i gefnogi’r blaenoriaethau yn y WIIP i ariannu lleoliadau Dechrau’n Deg. Y cynllun dangosol ar gyfer DEL Cyfalaf 2015-16, a gyhoeddir am y tro cyntaf, yw £14.5m.
Mae’r Tablau Ariannol Cryno canlynol yn dangos yr effaith gyffredinol ar gyllideb llinell sylfaen Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) Cymunedau a Threchu Tlodi.
Tablau Ariannol Cryno:
MEG CTP
|
2013-14 Cyllideb Atodol
£000
|
2014-15 Cynlluniau dangosol Cyllideb Derfynol wedi’i hailddatgan £000 |
2014-15 Newidiadau
£000 |
2014-15 Cynlluniau newydd Cyllideb Ddrafft
£000 |
2015-16 Cynlluniau newydd Cyllideb Ddrafft
£000 |
DEL Adnoddau |
187,556 |
195,871 |
-3,625 |
192,246 |
191,534 |
DEL Cyfalaf |
24,450 |
16,450 |
4,000 |
20,450 |
14,450 |
Llinell Sylfaen DEL |
212,006 |
212,321 |
375 |
212,696 |
205,984 |
O fewn MEG CTP, crynhoir yr effaith benodol ar y gyllideb Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd (CYP&F) yn y tabl isod.
CYP&F |
2013-14. Cyllideb Atodol
£000
|
2014-15 Cynlluniau dangosol wedi’u hailddatgan Cyllideb Derfynol £000 |
2014-15 Newidiadau
£000 |
2014-15 Cynlluniau newydd Cyllideb Ddrafft
£000 |
2015-16 Cynlluniau newydd Cyllideb Ddrafft
£000 |
DEL Adnoddau |
117,538 |
127,538 |
-1,925 |
125,613 |
127,413 |
DEL Cyfalaf |
12,000 |
4,000 |
4,000 |
8,000 |
2,000 |
Llinell Sylfaen DEL |
129,538 |
131,538 |
2,075 |
133,613 |
129,413 |
3. Trosolwg o’r Gyllideb
Nod cyffredinol yr Adran Cymunedau a Threchu Tlodi yw uno gwaith Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid wrth drechu tlodi a sicrhau dyfodol tecach i gymunedau, teuluoedd ac unigolion.
Mae gan yr Adran nifer o flaenoriaethau penodol sy’n adlewyrchu ac yn cefnogi cyflenwi’r Rhaglen Lywodraethu. Mae llawer o’r blaenoriaethau hyn hefyd yn cael effaith uniongyrchol ar blant a phobl ifanc:
4. Y Rhaglen Lywodraethu
Ar draws y portffolio Cymunedau a Threchu Tlodi, rydym yn gweithio i atal tlodi, i helpu pobl allan o dlodi a helpu i adeiladu cymunedau cadarn lle y gall teuluoedd ac unigolion gael gafael ar y cymorth y mae arnynt ei angen. Rydym yn helpu plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd ac yn cefnogi teuluoedd; yn cymryd camau i wneud cydraddoldeb, hawliau a datblygu cynaliadwy yn rhan annatod o waith Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus; ac yn cefnogi’r trydydd sector i chwarae ei ran wrth sicrhau’r canlyniadau yr ydym yn gweithio tuag atynt. Fel rhan o ganlyniad ein hymgynghoriad ar y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector yng Nghymru yn 2013, rhagwelwn y bydd mwy o ganolbwynt ar gefnogi’r sector i fod yn fwy cynaliadwy, gwella cydweithio a chydweithredu, a sicrhau bod y cyllid a ddarparwn yn cael cymaint o effaith â phosibl.
Yn benodol, mae’r gyllideb Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yn cefnogi nifer o raglenni allweddol gan gynnwys Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a gofal plant. Yn 2014-15 byddwn yn buddsoddi £125m (gwariant refeniw) mewn cefnogi Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yng Nghymru.
Amgaeir manylion y Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL) yn Atodiad 1. Yn sgil y newidiadau i bortffolios y Gweinidogion ym mis Mawrth, cafodd y BELs hyn eu trosglwyddo o MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gyda’r cyllidebau Gwasanaethau Cymdeithasol yn cadw eu helfennau o arian plant a theuluoedd.
Dechrau’n Deg
Mae dyblu nifer y plant sy’n elwa ar gynllun Dechrau’n Deg yn un o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu o dan ‘Pump am Ddyfodol Tecach’ a buddsoddiad wedi’i dargedu ydyw i gefnogi plant a’u teuluoedd yn y blynyddoedd cynnar. Mae tystiolaeth ryngwladol yn cefnogi’r dull hwn fel ffordd effeithiol o wella cyfleoedd bywyd ein plant mwyaf difreintiedig.
Trwy gynllun Dechrau’n Deg byddwn yn buddsoddi refeniw o £72.1m a chyfalaf o £8m yn 2014-15 i gefnogi gofal plant o safon uchel ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Rydym hefyd yn dyrannu refeniw ychwanegol o £5m yn 2015-16 er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiad i ddyblu nifer y plant sy’n elwa ar Dechrau’n Deg. Mae’r buddsoddiad a nodir uchod yn cynnwys arian cyfalaf ychwanegol o £4m yn 2014-15 (£2m yn 2015-16).
Bydd gwella cyfleoedd bywyd plant o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd anodd yn cael effaith hirdymor gadarnhaol ar yr economi, nid yn unig oherwydd y canlyniadau i blant, ond hefyd mewn perthynas â gwario ataliol a’r gostyngiad cysylltiedig yn yr angen am wasanaethau mwy dwys a drud y byddai angen eu darparu fel arall. Gall y rhaglen arwain hefyd at well cydlyniant cymdeithasol a datblygu cymunedol.
Mae gofal plant o safon uchel yn y blynyddoedd cynnar a mynychu lleoliadau o safon ragorol yn cael dylanwad o bwys ar ddatblygiad plentyn, yn enwedig yn achos plant sy’n dod o gefndir difreintiedig. Erbyn diwedd 2014-15 bydd dros 32,000 o blant rhwng 2 a 3 oed yn ardaloedd Dechrau’n Deg yn elwa ar ddarpariaeth Dechrau’n Deg. Yn ôl y dystiolaeth werthuso gynnar mae datblygiad cymdeithasol plant sy’n elwa ar Dechrau’n Deg yn gwella ac maent t yn fwy parod am yr ysgol ac yn barod i ddysgu.
Gwyddom hefyd fod Dechrau’n Deg yn dechrau cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad gwybyddol plant. Rydym hefyd yn gweld gwelliant o ran cyrraedd y cerrig milltir priodol rhwng 2 a 3 oed. Rydym wedi ymrwymo, trwy’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, i barhau i gynyddu lefelau gwelliant rhwng 2 a 3 oed yn y rhaglen. Byddwn hefyd yn parhau i roi blaenoriaeth i ennill sgiliau iaith yn gynnar gan fod hyn yn allweddol i ddatblygiad gwybyddol ac i wella lefelau cyffredinol llythrennedd a rhifedd.
Mae Dechrau’n Deg hefyd yn gyflogwr o bwys. Ar hyn o bryd mae dros 1,000 o bobl wedi’u cyflogi’n uniongyrchol i gyflenwi’r rhaglen. Bydd cynnydd pellach o 850 yn y ffigur hwn yn ystod ein gwaith i ehangu’r rhaglen. Mae’r swyddi hyn yn amrywio o ofal plant lefel mynediad i rolau proffesiynol medrus iawn ym maes iechyd a chefnogi teuluoedd.
Mae cefnogi plant, teuluoedd a chymunedau difreintiedig wrth wraidd rhaglen Dechrau’n Deg. Mae buddsoddiad yn cael ei dargedu yn y cymunedau sydd â’r gyfran uchaf o aelwydydd gyda phlant 0-4 oed sydd ar fudd-daliadau incwm. Yn benodol byddwn yn parhau, trwy Dechrau’n Deg, i hybu’r berthynas rhwng y rhiant a’r plentyn a phwysigrwydd rhianta cadarnhaol.
Teuluoedd yn Gyntaf
Rhaglen arloesol yw hon sy’n annog pob awdurdod lleol i ddatblygu systemau aml-asiantaeth effeithiol a chymorth i deuluoedd, gyda phwyslais clir ar atal ac ymyrraeth gynnar i gefnogi teuluoedd, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn tlodi. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal y Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn ystod y tymor Cynulliad hwn a byddwn yn buddsoddi £46.9m yn 2014-15.
Mae’r rhaglen yn ymateb allweddol i Strategaeth Llywodraeth Cymru ar Dlodi Plant ac yn cyfrannu at amcanion y Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi yn sylweddol. Mae cynlluniau cyflenwi lleol yn blaenoriaethu camau gweithredu a chymorth i leihau nifer y teuluoedd sy’n byw mewn aelwydydd di-waith; gwella sgiliau rhieni a gofalwyr a phobl ifanc sy’n byw mewn aelwydydd incwm isel; a lleihau’r anghydraddoldebau sy’n bodoli yn y canlyniadau iechyd, addysg ac economaidd i blant sy’n dod o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd is. Bydd prosiectau’n cefnogi ystod o fentrau gan gynnwys targedu pobl 16-19 oed sydd wedi ymddieithrio o addysg a hyfforddiant a darparu cymorth personol i ddatblygu eu cyflogadwyedd.
O safbwynt cyflawniad addysgol, mae Teuluoedd yn Gyntaf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol flaenoriaethu cymorth er mwyn sicrhau bod plant, pobl ifanc ac yn wir oedolion mewn teuluoedd yn gallu cyflawni eu potensial. Byddwn yn defnyddio dangosyddion craidd megis nifer y plant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n cyrraedd dangosydd y Cyfnod Sylfaen, sy’n cyrraedd y dangosydd pynciau craidd yng Nghyfnod Allweddol 2 ac sy’n cyrraedd y Trothwy lefel 2 mewn TGAU. Bydd prosiectau’n canolbwyntio ar y teulu’n bennaf, a byddant hefyd, er enghraifft, yn targedu pobl sydd mewn perygl o ymadael ag addysg trwy sicrhau bod lefelau presenoldeb ac ymgysylltu yn well.
Mae’r Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf hefyd yn sbardun o bwys wrth ddatblygu ‘Timau o Amgylch y Teulu’ aml-asiantaeth. Cymru yw’r unig wlad yn y DU ar hyn o bryd sy’n ei gwneud yn ofynnol i ardal pob awdurdod lleol ddatblygu ac ymgorffori ‘Tîm o Amgylch y Teulu’ yn eu gwaith.
Mae Cefnogi plant, teuluoedd a chymunedau difreintiedig yn sylfaenol i amcanion Teuluoedd yn Gyntaf fel rhaglen Cymru gyfan. Mae plentyn yn gwneud yn well pan fydd yn byw mewn cartref diogel o safon uchel, a lle mae ganddo berthynas agos, gadarnhaol a diogel â’i mam, â’i dad, neu ag oedolyn allweddol. Nod Teuluoedd yn Gyntaf yw rhoi cymorth priodol i deuluoedd i sicrhau eu bod yn hunanddigonol ac yn gadarn. Byddwn yn buddsoddi mewn gwasanaethau cymorth i deuluoedd a gwasanaethau uniongyrchol sy’n galluogi plant i ddatblygu ac sy’n rhoi i rieni’r cymorth y mae arnynt ei angen i ymdopi â sefyllfaoedd teuluol anodd, eu helpu i fynd i’r afael â materion a achosir gan dlodi a sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth a’r cyngor iawn pan fydd arnynt eu hangen. Bydd prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf, er enghraifft, yn nodi teuluoedd sydd fwyaf tebygol o aros mewn tlodi hirdymor ac yn targedu cymorth cynnar a pharhaus i’r teulu cyfan, gwella sgiliau, datblygu dyhead a gwella lefelau incwm aelwydydd.
Gofal Plant a Chwarae
Mae’r ddarpariaeth yn cael ei chynnal yn £3m yn 2014-15 o gofio ei phwysigrwydd fel sbardun polisi o bwys mewn perthynas â thwf a swyddi ac o safbwynt trechu tlodi. Mae gwerthusiadau olynol wedi casglu bod argaeledd gofal plant fforddiadwy o safon yn hanfodol i gefnogi pobl y mae angen iddynt weithio neu ennill sgiliau i’w galluogi i weithio.
Cydnabyddir yn y Rhaglen Lywodraethu, y Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi a Chynllun y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant fod datblygu gofal plant fforddiadwy, hygyrch o safon uchel, yn allweddol i sicrhau bod rhieni’n gallu cael mynediad i hyfforddiant a gwaith. Byddwn yn chwilio am gyfleoedd o dan y cylch nesaf o raglenni Ewropeaidd (2014-2020) i weithredu yn y maes hwn fel rhan o’n nod o hybu cynhwysiant cymdeithasol a threchu tlodi.
Rydym yn cefnogi’r sector gofal plant trwy helpu cyrff gofal plant cenedlaethol a darparu cymorth ariannol i’r awdurdodau lleol i hybu a datblygu gofal plant cofleidiol y tu allan i’r ysgol. Yn 2012-13 roedd rhyw 4,500 o leoedd gofal plant ac 800 o leoedd mewn clybiau gwyliau’n cael eu cynnal gan y rhaglen y tu allan i ysgolion. Byddwn hefyd yn cefnogi rhai o’r blaenoriaethau a danlinellwyd yn Adeiladu Dyfodol mwy Disglair, Cynllun y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant.
O safbwynt cyflawniad addysgol, gwyddom hefyd fod yr hyn y mae rhieni’n ei wneud gyda’u plant gartref yn cael effaith sylweddol ac y gall ei ddylanwad fod yn gryfach na galwedigaeth, addysg neu incwm y rhiant. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi rhaglenni Iaith a Chwarae sy’n anelu at ddatblygu rhyngweithiad a buddsoddiad y rhiant mewn dysgu yn y cartref.
Cydnabyddwn bwysigrwydd sicrhau bod gan blant a phobl ifanc lais a’n bod yn gwrando arnynt. Byddwn yn parhau i gefnogi gweithredu’r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc a gweithredu’r CCUHP yng Nghymru. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi MEIC - y Llinell Gymorth Eiriolaeth i Blant a Phobl Ifanc a byddwn yn cynyddu £0.2m ar y gyllideb Eiriolaeth yn 2014-15 a 2015-16.
Mae gostyngiad o £0.5m wedi’i gymhwyso i’r gyllideb Cymorth i Hawliau Plant yn 2014-15 a hynny’n bennaf o ganlyniad i arian heb ei ddyrannu yn deillio o brosiectau cynharach sydd bellach wedi dod i ben. Nid oedd yr arian hwn wedi cael ei glustnodi ar gyfer prosiectau’r dyfodol. Ni fydd y gostyngiad hwn yn amharu ar ein gallu i barhau i weithredu’r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc a’r dyletswyddau ar y Gweinidogion i flaenoriaethu hawliau plant wrth wneud penderfyniadau mewn perthynas â pholisi a deddfwriaeth. Bydd gostyngiadau pellach o £0.4m yn 2015-16 wrth i ni anelu at gydgyfnerthu rhai o’n cynlluniau grant.
Caiff cyllideb Comisiynydd Plant Cymru ei chynnal yn £1.7m yn 2014-15 a 2015-16. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu cynrychioli gan y Comisiynydd.
5. Deddfwriaeth
Cydnabyddwn bwysigrwydd sicrhau bod gan blant a phobl ifanc lais a’n bod yn gwrando arnynt. Byddwn yn parhau i gefnogi gweithredu’r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc a gweithredu’r CCUHP yng Nghymru. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi MEIC - y Llinell Gymorth Eiriolaeth i Blant a Phobl Ifanc a byddwn yn cynyddu £0.2m ar y gyllideb Eiriolaeth yn 2014-15 a 2015-16.
Mae gostyngiad o £0.5m wedi’i gymhwyso i’r gyllideb Cymorth i Hawliau Plant yn 2014-15 a hynny’n bennaf o ganlyniad i arian heb ei ddyrannu yn deillio o brosiectau cynharach sydd bellach wedi dod i ben. Nid oedd yr arian hwn wedi’i glustnodi ar gyfer prosiectau yn y dyfodol. Ni fydd y gostyngiad hwn yn amharu ar ein gallu i barhau i weithredu Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) a’r dyletswyddau ar y Gweinidogion i flaenoriaethu hawliau plant wrth wneud penderfyniadau mewn perthynas â pholisi a deddfwriaeth. Bydd gostyngiadau pellach o £0.4m yn 2015-16 wrth i ni anelu at gydgyfnerthu rhai o’n cynlluniau grant.
Mae’n werth nodi hefyd fod y Mesur yn gymwys i bob Gweinidog ac i bob polisi a deddfwriaeth newydd neu ddiwygiedig. Felly, mae’r buddsoddiad ar gyfer gweithredu hawliau plant yn llawer mwy ac yn effeithio ar gyllidebau ar draws y llywodraeth gyfan. Cafodd adroddiad ar gydymffurfio â’r Mesur ei gyhoeddi yn Ionawr 2013 ac mae’n nodi’r effaith y mae’r Mesur yn ei chael a sut y mae’n ymdreiddio i holl fusnes, deddfwriaeth, cyfarwyddiadau a chanllawiau’r llywodraeth, ac yn ei dro i wasanaethau lleol. Byddwn yn parhau i fonitro ac adrodd ar effaith y Mesur ac rydym wedi ymrwymo i gyhoeddi adroddiad cydymffurfio pellach ym mis Gorffennaf 2016.
Yn ehangach, rydym yn gweithio hefyd ar Fil Cenedlaethau’r Dyfodol. Diben y Bil yw galluogi’r rhai sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus i wneud penderfyniadau gwell, gan ganolbwyntio ar yr effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ar genedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Mae egwyddor meddwl hirdymor yn un o elfennau allweddol datblygu cynaliadwy. Mae ystyried y tymor hir yn rhoi canolbwynt ar atal a’r ymyriadau cynnar sy’n gallu arwain at fanteision hirdymor i unigolion a chymunedau.
6. Cyfalaf
Yn 2014-15 byddwn yn darparu £4 miliwn pellach mewn cyfalaf i sefydlu’r seilwaith angenrheidiol i barhau i gyflawni ein hymrwymiad i ddyblu nifer y plant sy’n elwa ar Dechrau’n Deg. Erbyn diwedd 2014-15 byddwn wedi buddsoddi dros £25 miliwn mewn tua 165 o brosiectau unigol, gan ddarparu lleoliadau am ofal plant o safon uchel, rhaglenni cymorth rhianta a thimau cymorth aml-asiantaeth. Bydd y buddsoddiad hwn yn mynd tuag at ddatblygu’r ‘seilwaith cymdeithasol’ y cyfeirir ato yn ein Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru trwy weithio yng nghanol ein cymunedau mwyaf difreintiedig a gwella llesiant a chyfleoedd bywyd plant o dan 4 oed.
7. Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb
Dechrau’n Deg
Dechrau’n Deg yw un o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu o dan ‘Pump am Ddyfodol Tecach’ a buddsoddiad wedi’i dargedu ydyw i gefnogi plant a’u teuluoedd yn y blynyddoedd cynnar. Mae tystiolaeth ryngwladol yn cefnogi’r dull hwn fel ffordd effeithiol o wella cyfleoedd bywyd ein plant mwyaf difreintiedig.
Bydd cyllideb Dechrau’n Deg yn gostwng £0.9m yn 2014-15. Er hynny, nid oes unrhyw ostyngiad yn y grant Dechrau’n Deg a ddyrennir i’r awdurdodau lleol a byddwn yn parhau i ehangu rhaglen Dechrau’n Deg yn unol â’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i gyrraedd 36,000 o blant a’u teuluoedd erbyn diwedd y tymor Cynulliad hwn. Daw’r gostyngiad yn y gyllideb o elfennau costau canolog ac mae’n cynnwys arbedion mewn costau gweinyddol o £0.4m a mabwysiadu ymagwedd fwy costeffeithiol at offer asesu, gan ryddhau £0.5m. Nid oes unrhyw effeithiau negyddol uniongyrchol ar gydraddoldeb o ganlyniad i’r penderfyniad hwn gan nad yw’n effeithio ar ddarparu gwasanaethau i bobl.
Yn 2015-16, bydd BEL Dechrau’n Deg yn cynyddu £4.8m i adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ehangu Dechrau’n Deg. O safbwynt cyflawniad addysgol, mae gan ofal plant o safon uchel yn y blynyddoedd cynnar a mynychu lleoliadau o safon ragorol ddylanwad o bwys ar ddatblygiad plentyn, yn arbennig yn achos blant sy’n dod o gefndir difreintiedig. Yn ôl y dystiolaeth werthuso gynnar mae datblygiad cymdeithasol plant sy’n elwa ar Dechrau’n Deg yn gwella ac maent yn fwy parod am yr ysgol ac yn barod i ddysgu. Anelir y buddsoddiad at y cymunedau sydd â’r gyfran uchaf o aelwydydd sydd â phlant 0-4 oed sydd ar fudd-daliadau incwm.
Teuluoedd yn Gyntaf
Rhaglen sy’n annog pob awdurdod lleol i ddatblygu systemau aml-asiantaeth effeithiol a chymorth i deuluoedd, gyda phwyslais clir ar atal ac ymyrraeth gynnar, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn tlodi yw Teuluoedd yn Gyntaf. Mae’r rhaglen yn ymateb allweddol i Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru ac yn cyfrannu’n sylweddol at amcanion y Cynllun Trechu Tlodi.
Rydym wedi ymrwymo i gynnal y Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn ystod y tymor Cynulliad hwn a byddwn yn buddsoddi £46.9m yn 2014-15. Mae hwn yn ostyngiad o £0.75m y mae ei angen yn 2014-15 ond caiff ei dalu heb unrhyw ostyngiad i’r grant Teuluoedd yn Gyntaf. Yn arbennig, mae hyn yn golygu y bydd y cymorth wedi’i neilltuo i deuluoedd â phlant anabl yn parhau ar lefelau cynlluniedig. Gellir talu’r gostyngiadau yn 2014-15 o wariant cynlluniedig ar feysydd polisi sydd heb gael eu datblygu’n llawn, neu gellir eu gohirio nes y bydd y gyllideb ar gael.
Byddwn yn dwyn ymlaen y gostyngiad yn y gyllideb Teuluoedd o £0.75m o 2014-15 ac fe welwn ostyngiad o £2.3m yn 2015/16. Deuir o hyd i hyn trwy leihau’r dyraniadau grant i’r awdurdodau lleol ar gyfer grant Teuluoedd yn Gyntaf. Mae hyn yn debygol o arwain at nifer o ostyngiadau mewn gwasanaethau i blant a theuluoedd, naill ai trwy ostyngiadau mewn adnodd Tîm o Amgylch y Teulu, cwtogi ar brosiectau penodol, neu roi terfyn ar rai prosiectau penodol yn llwyr. Gan fod Teuluoedd yn Gyntaf wedi’i gynllunio i dargedu teuluoedd yn benodol lle mae tlodi’n fater o bwys, mae’n debygol y bydd effaith ar unigolion a theuluoedd o’r grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig. Rydym yn datblygu methodoleg fwy manwl ar gyfer casglu data er mwyn darparu asesiad gwell o’r effaith a fydd yn caniatáu i ni gynllunio camau lliniaru.
Bydd angen hefyd i ni leihau £0.3m ar y swm sydd ar gael trwy Grant Cyrff Plant a Theuluoedd yn 2015-16. Gallai hyn effeithio ar allu rhai o gyrff y trydydd sector i gael arian. Yn y cyfamser byddwn yn edrych ar gamau i liniaru’r effaith.
Gofal Plant a Chwarae
Rydym yn amddiffyn y gyllideb Gofal Plant a Chwarae yn 2014-15 sy’n dangos ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn cymorth ar gyfer gofal plant ac i gefnogi datblygu’r sector gofal plant, sy’n allweddol o ran o sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad i hyfforddiant a/neu gyflogaeth a hefyd fod plant yn elwa ar brofiadau gofal plant o safon.
Er hynny, ceir gostyngiad o £0.3m yn 2015-16. Daw hyn o swm o £0.1 miliwn sydd ar gael am fod arian prosiect yn dod i ben yn 2014/15 a thrwy beidio ag ymrwymo cronfeydd i unrhyw brosiectau pellach. Yn ogystal, bydd Llywodraeth Cymru’n rhoi’r gorau i roi cymorth ariannol (£0.2 miliwn) ar gyfer gwiriadau troseddol i weithwyr gofal plant. Bach iawn o effaith y bydd hyn yn ei chael yn sgil cyflwyno gwiriadau CRB cludadwy. Ni chaiff unrhyw effaith ar ddarpariaeth a chymorth gofal plant a fydd yn parhau trwy’r grant Gofal Plant y tu allan i’r ysgol.
Eiriolaeth
Cydnabyddwn bwysigrwydd sicrhau bod gan blant a phobl ifanc lais a’n bod yn gwrando arnynt. Byddwn yn parhau i gefnogi gweithredu’r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc a gweithredu’r CCUHP yng Nghymru.
Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi MEIC – y Llinell Gymorth Genedlaethol ynghylch Eiriolaeth i Blant a Phobl Ifanc a byddwn yn cynyddu £0.2m ar y gyllideb Eiriolaeth yn 2014-15 a 2015-16 er mwyn mynd i’r afael â’r cynnydd yn nifer y plant a phobl ifanc sy’n cysylltu â’r llinell gymorth Eiriolaeth, Cyngor a Gwybodaeth. Byddwn hefyd yn cynnal gwerthusiad o MEIC er mwyn sicrhau ei fod mor effeithiol ag y gall fod o ran sicrhau canlyniadau cadarnhaol.
Yn ogystal bydd y codiad yn helpu i fynd i’r afael â rhai o’r argymhellion a nodwyd gan y Comisiynydd Plant yn ei adroddiad ar eiriolaeth i blant a phobl ifanc.
8. Datblygu Cynaliadwy
Mae cynaliadwyedd ein buddsoddiad sylweddol trwy’r Gyllideb Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yn rhan annatod o’r gweithio aml-asiantaeth mwy effeithiol y mae’n ei yrru. Yn ein tro, byddwn yn parhau i ddefnyddio sylfeini tystiolaeth i wneud yr achos busnes o blaid buddsoddi cynnar ac i ddangos ffrwyth buddsoddi, gan sicrhau bod egwyddorion ac arferion ymyrraeth gynnar yn ennill eu plwyf. Mae rhaglen Dechrau’n Deg a’r Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn destun gwerthusiadau a gaiff eu cyhoeddi (fel cyfres o adroddiadau) ac a ddefnyddir i lywio eu datblygiad ymhellach.
Jeff Cuthbert AM
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi
CHILDREN, YOUNG PEOPLE AND FAMILIES BUDGET (forming part of the CTP MEG)
|
|
|
|
ANNEX 1 |
||||
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
REVENUE BUDGET - Departmental Expenditure Limit |
|
|
|
|
|
||
SPA |
Actions |
BEL Title |
2013-14 Supplementary budget |
2014-15 Indicative Plans Restated Final Budget |
2014-15 Changes |
2014-15 New Plans Draft Budget |
2015-16 New Plans Draft Budget |
|
Children, Young People and Families |
Children, Young People and Families |
Children's Commissioner |
1,715 |
1,715 |
0 |
1,715 |
1,715 |
|
Families First |
47,658 |
47,658 |
-750 |
46,908 |
44,608 |
|||
Flying Start |
62,994 |
72,994 |
-900 |
72,094 |
76,894 |
|||
Childcare & Play Strategies |
3,016 |
3,016 |
0 |
3,016 |
2,716 |
|||
Support for Children's Rights |
1,305 |
1,305 |
-500 |
805 |
405 |
|||
Advocacy |
850 |
850 |
225 |
1,075 |
1,075 |
|||
|
|
SPA/ACTION Total |
117,538 |
127,538 |
-1,925 |
125,613 |
127,413 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Total Resource |
|
117,538 |
127,538 |
-1,925 |
125,613 |
127,413 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
CAPITAL BUDGET - Departmental Expenditure Limit |
|
|
|
|
|
||
SPA |
Actions |
BEL Title |
2013-14 Supplementary budget |
2014-15 Indicative Plans Restated Final Budget |
2014-15 Changes |
2014-15 New Plans Draft Budget |
2015-16 New Plans Draft Budget |
|
Communities and Tackling Poverty |
Communities and Tackling Poverty |
|
|
|
|
|
|
|
Flying Start |
12,000 |
4,000 |
4,000 |
8,000 |
2,000 |
|||
|
|
|
|
|
|
|||
|
|
SPA/ACTION Total |
12,000 |
4,000 |
4,000 |
8,000 |
2,000 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Total Capital |
|
12,000 |
4,000 |
4,000 |
8,000 |
2,000 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Total DEL |
|
129,538 |
131,538 |
2,075 |
133,613 |
129,413 |
|
Resource tables = The baseline used for Resource DEL in 2014-15 is as at Final Budget 2013-14, restated to reflect Ministerial portfolio changes as announced by the First Minister in March
and adjusted to reflect recurrent baseline adjustments included in the First Supplementary Budget 2013-14. These baseline adjustments are set out in Annex D of the Draft Budget narrative.
Capital tables = The baseline used for Capital DEL in 2014-15 is as at Final Budget 2013-14, restated to reflect Ministerial portfolio changes as announced by the First Minister in March.